Gwybodaeth ychwanegol: Mae’r ysbyty wedi gwasanaethu ein cymuned am dros 100 mlynedd, a chaiff ei ddefnyddio at lawer  o ddibenion.  Er enghraifft, pan fydd cleifion oedrannus yn barod i adael ysbytai eraill fel Ysbyty Nevill Hall, y Fenni, ond nad ydynt yn barod i ddychwelyd i’w cartrefi , byddant yn treulio cyfnod o amser yn ysbyty Blaenau. Mae’r ysbyty hefyd yn darparu 42 o welyau ar gyfer y gymuned mewn dwy ward, a tua 80 o staff llawn-amser a rhan- amser. Mae 32 o welyau yn ward Nantyglo ac mae 10 o welyau yn Ward y Meddygon Teulu. Mae’r ysbyty’n darparu gofal is-aciwt ac adsefydlu i gleifion mewnol gan gynnwys ffisiotherapi  a therapi galwedigaethol ar gyfer y gymuned  leol, ac amrywiaeth o wasanaethau i gleifion allanol gan gynnwys: meddygaeth oedolion, clinigau i gleifion allanol, cyngor ar ymataliaeth, ffisiotherapi i gleifion allanol, therapi galwedigaethol i gleifion allanol, radioleg,  podiatreg, rhewmatoleg, clinigau i gleifion allanol, clinigau diabetig a dieteg ddwywaith y mis. Mae’r ysbyty hefyd yn ganolfan i dîm Ymateb Cyflym Blaenau Gwent.